Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5
Dyddiad: Dydd Llun, 10 Gorffennaf 2023
Amser:
14.00 -
16.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13397
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Amanda Blakeman, Heddlu Gwent Dafydd Llywelyn, Dyfed-Powys Police and Crime Commissioner Emma Wools, Heddlu De Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Claire Thomas (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 7
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Gogledd Cymru
Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
3 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
3.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo
3.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cytundeb ar Gydnabyddiaeth Gilyddol a Chyfnewid Trwyddedau Gyrru Cenedlaethol ac ar Gyfnewid Gwybodaeth am Droseddau Traffig Cysylltiedig â Diogelwch Ffyrdd (DU/Sbaen)
3.3 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch dogfennaeth sy'n cyd-fynd â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru
3.4 Gohebiaeth â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ynghylch darparu safle ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr
3.5 Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
3.6 Gohebiaeth gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch symud gwasanaeth presgripsiynu electronig gofal sylfaenol ar bresgripsiynau ar draws ffiniau
3.7 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
3.8 Gohebiaeth â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
3.9 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch Deddf Hawliau Senedd y DU
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
5 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod y dystiolaeth a materion allweddol
Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth.
6 Cyfiawnder data: trafod gohebiaeth ddrafft
Trafododd yr Aelodau’r ohebiaeth ddrafft, a chytunwyd arni, yn amodol ar fân ddiwygiadau.
7 Blaenraglen waith
Cytunodd yr Aelodau ar Flaenraglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion: trafod yr adroddiad drafft
Gwnaeth yr Aelodau drafod yr adroddiad drafft a chytuno arno.